Datganiad dwyieithog yw hwn. Mae’r fersiwn Saesneg yma.
This is a bilingual media release. The English version can be read here.
MEDIA RELEASE
Embargo tan 00:01, dydd Iau 14 Gorffennaf 2016
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, “Llywodraeth Cymru yn Ariannu Kancoat Ltd”.
Dywedodd Mr Ramsay:
"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi'n glir hanes y cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Kancoat Ltd a'r golled anadferadwy bosibl o hyd at £1.5 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu gyda'r cwmni bellach wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
"Yn anochel, ni fydd pob busnes sy'n elwa o gymorth ariannol a chymorth arall gan Lywodraeth Cymru yn llwyddiannus.
"Serch hynny, mae'n bwysig bod y risgiau sy'n gysylltiedig â chyllid busnes yn cael eu rheoli'n effeithiol ac mae'n amlwg bod gwersi pwysig yn cael eu dysgu o'r achos penodol hwn.
"Bydd y Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol maes o law a gallai benderfynu cymryd tystiolaeth bellach ar ei ganfyddiadau.”
Nodiadau i olygyddion
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, gwneud cais am luniau neu gais ffilmio, ffoniwch 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gael yma.
Mae'r adroddiad llawn "Llywodraeth Cymru yn Ariannu Kancoat Ltd” ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Cymraeg
Saesneg